Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd

Dyddiad: Dydd Mercher, 21 Mehefin 2017

Amser: 09.07 - 12.16
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
4151


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

John Griffiths AC (Cadeirydd)

Janet Finch-Saunders AC

Bethan Jenkins AC

Rhianon Passmore AC

Jenny Rathbone AC

Joyce Watson AC

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

Naomi Stocks (Clerc)

Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc)

Chloe Davies (Dirprwy Glerc)

Jonathan Baxter (Ymchwilydd)

Hannah Johnson (Ymchwilydd)

Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld felHTML (999KB)

</AI1>

<AI2>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gareth Bennett AC a Sian Gwenllian AC. Roedd David Melding AC yn dirprwyo ar ran Janet Finch-Saunders AC ar gyfer eitem 6 o'r cyfarfod.

 

 

</AI2>

<AI3>

2       Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: Cymunedau yn Gyntaf - yr hyn a ddysgwyd - sesiwn dystiolaeth 4: Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

 

·         Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant.

·         Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi

·         Ruth Studley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Pontio Cymunedau yn Gyntaf

 

2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ddarparu:

·         Manylion am y broses ar gyfer holi ynghylch cynlluniau llesiant byrddau gwasanaeth, fel yr amlinellwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru);

·         Nodyn o'r trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, byrddau cyflawni lleol a byrddau gwasanaeth cyhoeddus ar drefniadau trosiannol;

·         Copi o'r Canllawiau Pontio a Strategaeth a ddarparwyd i awdurdodau lleol;

·         Nodyn ar werthusiad rhaglenni Cymunedau am Waith ac Esgyn, gan gynnwys unrhyw ddata sydd ar gael a'r meini prawf asesu;

·         Nodyn yn rhoi rhagor o fanylion am y llwybr cyflogadwyedd ar ôl ymgysylltu â'r rhaglenni Cymunedau am Waith ac Esgyn;

·         Copi o'r canllawiau ar y rhaglen ased cyfalaf.

</AI3>

<AI4>

3       Papurau i'w nodi

</AI4>

<AI5>

3.1   Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - 9 Mehefin 2017

3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - 9 Mehefin 2017.

</AI5>

<AI6>

3.2   Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - 13 Mehefin 2017

3.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - 13 Mehefin 2017.

</AI6>

<AI7>

3.3   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â gwaith craffu ar y Gyllideb ddrafft

3.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â chraffu ar y gyllideb ddrafft.

</AI7>

<AI8>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI8>

<AI9>

5       Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: Cymunedau yn Gyntaf - yr hyn a ddysgwyd - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2 a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet ar nifer o faterion a nodwyd.

</AI9>

<AI10>

6       Bil Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru): trafod yr adroddiad drafft

6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad yn amodol ar rai mân newidiadau.

</AI10>

<AI11>

7       Ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrrau o fflatiau: ystyried y dull

7.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull a chytunodd i gynnal ymchwiliad undydd ar 13 Gorffennaf 2017.

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>